P-04-627 Gwell Gwasanaethau Trên i Gymudwyr ar gyfer Trigolion Gogledd Cymru

Testun y ddeiseb

Er bod prisiau tocynnau trenau ar draws gogledd Cymru wedi codi'n uwch na chyfradd chwyddiant dros nifer o flynyddoedd diweddar, mae'r gwasanaeth a gynigir i gymudwyr wedi lleihau.

Yn benodol, mae'r gwasanaeth a gynigir ar adegau sy'n gyfleus i'r rhan fwyaf o gymudwyr i Fangor - cartref un o brifysgolion mwyaf Cymru, ac ysbyty mawr hefyd (yn ogystal â gorsaf reilffordd brysuraf gogledd Cymru o ran nifer y teithwyr!) - wedi cael ei dorri'n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn benodol, rydym yn galw am ailgyflwyno'r gwasanaeth rhwng Caer a Bangor, gwasanaeth a arferai gyrraedd Bangor am 09.36. (Yn eironig, er bod y gwasanaeth hwn wedi ei dorri yn ystod dyddiau'r wythnos, mae'n dal i redeg ar ddydd Sadwrn!).

Prif ddeisebydd:Professor Tom Rippeth

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion:36 llofnod